Jenny Randerson - Standing up for Cardiff Central

Cymorthfeydd a Chysylltiadau

Fel eich aelod Cynulliad, rwy'n gallu helpu gydag unrhyw agwedd ar waith y Cynulliad - fel addysg, iechyd, yr amgylchedd, cludiant a datblygiad economaidd.

Hefyd, rwy'n gweithio â Jenny Willott AS ar faterion y mae gan Lywodraeth San Steffan gyfrifoldeb amdanynt, ac â chynghorwyr Democratiaid Rhyddfrydol lleol yn y chwe ward (Adamsdown, Cathays, Cyncoed, Pentwyn, Penylan a Phlasnewydd) ar unrhyw broblemau yr ydych chi'n eu cael gyda Chyngor Sir Caerdydd.

Rwy'n cynnal cymorthfeydd ar y rhan fwyaf o ddyddiau Gwener yn fy swyddfa etholaeth yn 99 Heol Woodville, a hefyd rwy'n cynnal cymorthfeydd ar y cyd gyda chynghorwyr trwy gydol Canol Caerdydd. Fel arfer nid yw apwyntiadau'n angenrheidiol.

Os oes angen arnoch fy help ar frys, yna cysylltwch â fi'n uniongyrchol.

Printed and hosted by Prater Raines Ltd, 98 Sandgate High Street, Folkestone CT20 3BY.
Published and promoted by Jenny Randerson AM, 99 Woodville Road, Cardiff CF24 4DY.
The views expressed are those of the party, not of the service provider.