Jenny Randerson - Standing up for Cardiff Central

Dod i Adnabod Jenny Randerson

Jenny Randerson

Jenny Randerson AM talking to local residents on Albany Road

Mae sawl un ohonoch wedi dweud wrthyf eich bod hefyd eisiau gwybod tipyn amdanaf, yn ogystal â'r hyn rwy'n sefyll drosto. Felly dyma gynnig arni!

Diddordebau gwleidyddol

Rwyf wedi byw yng Nghaerdydd ers y 1970au cynnar ac rwy'n byw yng Nghyncoed, tua gogledd Etholaeth Canol Caerdydd.

Dechreuais ymwneud â gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd tua diwedd y 1970au a chefais f'ethol yn gynghorydd Cyncoed ym 1983. Trwy gydol y 1980au a'r 1990au, cynyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol nifer eu seddi ar Gyngor Dinas Gaerdydd a Chyngor Sir De Morgannwg. Erbyn yr adeg i Gaerdydd fynd yn awdurdod unedol a diddymwyd y Cyngor blaenorol, y Democratiaid Rhyddfrydol oedd y blaid ail fwyaf yng Nghaerdydd.

Roeddwn i'n arweinydd yr wrthblaid ar Gyngor Sir Caerdydd rhwng 1994 a 1999. Ym 1997, sefais yn etholaeth Canol Caerdydd yn erbyn yr AS Llafur ar y pryd. Gyda phoblogrwydd Tony Blair yn codi ac am i Lafur gael canlyniad ysgubol ar draws y wlad, Canol Caerdydd oedd un o'r unig seddi yn y DU lle y cymerodd y Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisiau oddi wrth Lafur.

Ym 1999, sefais yn etholaeth Canol Caerdydd am y Cynulliad newydd i Gymru a chefais f'ethol gyda mwyafrif o dros 3000. Yn 2000, ar ôl cwymp Llywodraeth gyntaf Alun Michael, des i'n Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Iaith Gymraeg. Yn 2003 cefais f'ailethol gyda mwyafrif mwy o dros 7000 ac ers 2005, rwyf wedi bod yn llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Iechyd, Cyllid a Chyfle Cyfartal.

Gartre

Mae bod yn Aelod Cynulliad dros Ganol Caerdydd yn golygu bod amser hamdden yn brin iawn i mi, felly rwyf yn wir gwerthfawrogi amser gartre neu ymweld â'm dau blentyn.

Gartre, rwy'n mwynhau garddio pan fydd gennyf amser, cael ffrindiau draw a gwylio ffilmiau, rhaglenni newyddion a rhaglenni comedi ar y teledu. Pan af i allan, rwy'n mwynhau'r sinema, y theatr a chyngherddau. Hefyd, rwy'n ceisio ymarfer mewn canolfan chwaraeon yn rheolaidd.

Mae bod yn aelod gweithredol o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cymryd llawer o'm hamser ac rwy'n mwynhau gweithgareddau cymdeithasol, fel ein cwisiau tafarn.

Ar ben hyn i gyd, rwy'n parhau i ddysgu Cymraeg, yr wyf wedi bod yn ei dysgu ers nifer o flynyddoedd.

Er fy mod yn dwli ar gerddoriaeth o bob math, nid wyf yn gallu chwarae offeryn cerdd. Fodd bynnag, mae fy ngŵr, fy mab a'm merch i gyd yn gerddorion amatur brwd felly rwy'n "grwpi" rheolaidd yn eu cyngherddau.

Ar wyliau, rwy'n hoffi mynd â digon o lyfrau gyda fi i'w darllen am na chaf amser weddill y flwyddyn.

Printed and hosted by Prater Raines Ltd, 98 Sandgate High Street, Folkestone CT20 3BY.
Published and promoted by Jenny Randerson AM, 99 Woodville Road, Cardiff CF24 4DY.
The views expressed are those of the party, not of the service provider.